Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Carl Sargeant
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi neilltuo £4.7 miliwn ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr trais yn y cartref yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Carl Sargeant becynnau o gymorth ariannol i wahanol elusennau.

Mae Cymorth i Fenywod Cymru, Hafan Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr Cymru ymhlith elusennau a fydd yn derbyn arian i gynnal nifer o raglenni sy’n cefnogi dioddefwyr gwrywaidd a benywaidd, a’u plant. Mae prosiectau eraill yn cynnwys rhaglenni adsefydlu troseddwyr.

Fe fydd cyllid cyfalaf hefyd ar gael i wella’r ddarpariaeth mewn ardaloedd sydd heb gyfleusterau siop-un-stop i gyflwyno gwasanaethau camdriniaeth yn y cartref.

“Mae elusennau’n ymwneud â thrais yn y cartref wedi profi eu gallu i helpu dioddefwyr ailgydio yn eu bywydau,” meddai Carl Sargeant.

“Mae’n hanfodol fod y sefydliadau hyn yn derbyn yr help y mae arnyn nhw ei angen i barhau â’u safonau uchel o wasanaeth a gofal.

“Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi ymrwymo i wneud popeth a all i gefnogi’r grwpiau hyn – er gwaetha’r ffaith fod llai o arian yn y pwrs cyhoeddus.

“Dw i’n gobeithio y bydd y pecyn ariannol yma’n mynd un cam ymhellach tuag at gael gwared yn llwyr â thrais yn y cartref.”