Bydd Syr Wymff a Plwmpsan yn ôl ar sgriniau S4C am y tro cyntaf er 1990 heno – yn rhan o gyfres gomedi newydd Ddoe am Ddeg.

Mae’r sioe yn addo bwrw golwg go wahanol ar bob dim yng Nghymru. Mae’r ysgrifenwyr, yr actorion a’r cyflwynwr yn ifanc, a’r gobaith yw y bydd yn denu cynulleidfa o’r un oed.

Dywedodd Elidir Jones, un o sgriptwyr y gyfres, ei “bod yn fraint ac yn anrhydedd i allu croesawu Syr Wynff a Plwmsan i’r gyfres”.

“Maen nhw wedi bod yn arwyr i genedlaethau o blant ac yn destun edmygedd i bawb sy’n gwerthfawrogi hiwmor gwreiddiol.”

O’r gwrion i’r absẃrd

Mae’r gyfres wedi ei chynhyrchu gan Gwmni Rondo yng Nghaernarfon, ac mae’r rhan helaeth o’r gwaith ysgrifennu wedi ei wneud gan ddau sgriptiwr ifanc.

Mae Elidir Jones o Fangor yn fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae Ciron Gruffydd yn ysgrifennwr llawn amser.

“Mae’r rhaglen yn rhywbeth sy’n gyfan gwbl newydd a gwahanol i’r arfer,” meddai Ciron Gruffydd.

“Mi fydd yn mynd â ni o’r gwirion i’r absẃrd ac o’r gwallgo’ i’r personol. Mae hi wedi bod yn brofiad a hanner gweithio arni ac mae’n wych bod Rondo yn cefnogi sgriptwyr a pherfformwyr ifanc drwy gynnig cyfleoedd arbennig fel hyn.

“Y gobaith yw y bydd y gwylwyr yn ei mwynhau cymaint ag ydw i wedi mwynhau gweithio arni.”

Syr Wynff yn addo achub S4C

Mewn cyfweliad arbennig gyda Golwg 360, dywedodd Syr Wynff ei fod o’n barod i achub y sianel o’i drafferthion ariannol.

“Raslas bach a mawr ma’n grêt bod yn ôl!” meddai. “Fel mod i heb fod i ffwrdd! Dod yn ôl i achub S4C rhag trybini ariannol.”

Dywedodd ei fod wedi mwynhau’r profiad a “chael dod a Plwmsan allan o’r cartref hen bobl”.

“Ar yr awr dyngedfennol mae Plwmsan a fi yn barod i wasanaethu ein gwlad mewn unrhyw ffordd posib, ag os yw hynny yn golygu rhoi slepjan yng ngwyneb ambell berson pwysig – boed hynny fel y bo…

“Hysh awe rwan, ma genna ‘i bethau pwysicach i’w wneud na ateb eich cwestiynau chi.”