Wylfa
Mae’r cwmni sy’n datblygu gorsaf niwclear newydd Ynys Môn wedi dweud y byddwn nhw’n bwrw ymlaen â’r gwaith, er gwaetha’r pryder am un o orsafoedd niwclear Japan.

Yn ôl Alan Raymant, prif swyddog gweithredol cwmni Horizon, mae sefyllfa Ynys Môn yn “wahanol iawn i’r amgylchiadau yn Japan”.

Cafodd gorsaf niwclear Fukushima ei ddifrodi yn dilyn y ddaeargryn a’r tsunami yno bron i bythefnos yn ôl.

Dywedodd Alan Raymant fod “daeareg Ynys Môn, a’r technolegau y mae fy nghwmni i, Horizon, yn eu hystyried ar gyfer gorsaf bŵer yr Wylfa, yn wahanol iawn”.

Ond “ffolineb anghyfrifol” yw hyn yn ôl Dylan Morgan, llefarydd ar ran mudiad PAWB, sy’n ymgyrchu yn erbyn datblygu Wylfa B.

“Mae ynni niwclear yn beryglus ac yn wenwynig,” meddai wrth Golwg 360. “Dyw’r diwydiant ddim wedi dysgu gwersi”.

‘Gwyngalchu’

Dywedodd Dylan Morgan fod “llywodraeth Japan a’u cyfeillion yn y gwladwriaethau niwclear, gan gynnwys Ffrainc a Phrydain, wedi bod yn ofalus iawn wrth drafod effeithiau ymbelydredd niwclear Japan”.

Mae hefyd yn cyhuddo gwasanaethau newyddion Prydain o “wyngalchu’r holl sefyllfa” niwclear yn Japan.

‘Wedi anghofio am Chernobyl’

Dywedodd un ffermwr o Ysbyty Ifan, sy’n dweud iddo weld effeithiau ffrwydrad niwclear Chernobyl ar ei fferm ei hun, yn credu fod pobol wedi anghofio beth yw sgil effeithiau ffrwydrad niwclear.

“Mae pobol fel petaen nhw wedi anghofio am Chernobyl,” meddai Glyn Roberts, o fferm Dylasau Uchaf.

“Ond petai rywbeth yn digwydd yn Wylfa B, fe fyddai hi’n ta-ta arnon ni.”

Dywedodd Glyn Roberts bod nifer o’i ddefaid wedi geni ŵyn oedd wedi eu hanffurfio yn y blynyddoedd wedi trychineb Chernobyl.

Mae “sicrhau’n dyfodol a’n hiechyd, yn llawer pwysicach nag ystyriaethau economaidd,” meddai.

Protest PAWB

Mae ymgyrchwyr PAWB yn bwriadu cynnal protest ger Pont Menai ar ochr Ynys Môn rhwng 8.00 a 9.00 o’r gloch fore Mercher, 30 Mawrth.

Yn ôl PAWB, bwriad y brotest fydd tynnu sylw at y ffaith mai dwy bont yn unig a fyddai’n cynnig “dihangfa o Fôn i’r tir mawr” petai yna ddamwain niwclear yn digwydd yn Wylfa B.

Mae cwmni Horizon yn dweud nad yw sefyllfa Japan yn rhywbeth i boeni yn ei gylch yn Ynys Môn, ond eu bod yn “parhau i ddatblygu eu cynigion,” ac y byddan nhw’n sicrhau bod y cynlluniau ar gyfer Wylfa B “yn adlewyrchu canfyddiadau adroddiad y Prif Arolygydd Niwclear ar y digwyddiadau yn Japan”.