Llun o glawr yr adroddiad
Mae safon y bwyd sy’n cael ei gynnig yn ysbytai Cymru wedi gwella ond mae angen gwneud rhagor, meddai Swyddfa Archwilio Cymru.

Mewn llawer o achosion, does dim digon o wybodaeth am anghenion cleifion a dyw pob claf ddim yn cael yr help sydd ei angen i fwyta, medden nhw mewn adroddiad newydd.

Pryderon eraill yw diffyg sylw i gleifion gyda phroblemau deiet, llawer o wastraff  bwyd, amrywiaeth mawr ym mhris y prydau bwyd a sybsidis uchel i fwyd staff ac ymwelwyr.

Mae’r Swyddfa’n galw am fwy o safoni ar draws Cymru, am ddulliau cyson o ystyried cost bwyd ac am osod targedau lleol a chenedlaethol ar gyfer gwastraff bwyd.

Y gwaith gorau

Roedd llawer o’r gwaith gorau’n digwydd, medden nhw, lle mae nyrsys yn arwain ac maen nhw o blaid rhoi mwy o lais i’r rhai sy’n rheoli’r wardiau.

Yn ôl y Swyddfa, mae angen i ysbytai fod yn hyblyg a rhoi cleifion yn gyntaf, mae angen iddyn nhw gael cynllun gofal sy’n cynnwys deiet ar gyfer pob claf ac mae angen i gleifion gael llonydd yn ystod amser bwyd.

Dyw rhai ysbytai, meddai’r adroddiad, ddim yn ystyried maeth wrth gynllunio bwydlenni.

‘Gwelliannau calonogol’

“Mae’r bwyd sy’n cael ei ddarparu mewn ysbyty yn chwarae rhan hanfodol yng ngwellhad ac adferiad y claf,” meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas..

“Er bod fy adroddiad yn sôn am welliannau calonogol, mae hefyd yn dangos bod angen i ysbytai wneud mwy i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnyn nhw o ran maeth.

“Rhaid i sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd gydnabod pwysigrwydd maeth i gleifion a sicrhau bod systemau arwain effeithiol ar waith ar wardiau fel y gwelir arfer gorau.”