Syr Terry Matthews a Ieuan Wyn Jones
Mae’r biliwnydd Syr Terry Matthews yn cydweithio â Llywodraeth y Cynulliad yn y gobaith o greu cenhedlaeth newydd o entrepreneuriaid technoleg yn y wlad.

Y nod yw cynnig hyfforddiant dwys i 10 o raddedigion ynghylch entrepreneuriaeth bob blwyddyn.

Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad fe fydd y graddedigion yn cael eu mentora gan entrepreneuriaid profiadol ac yn dilyn proses addysgu ddwys a fyddai’n eu paratoi ar gyfer yr heriau sydd ynghlwm â sefydlu cwmni technoleg.

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant dwys bydd y graddedigion yn derbyn cymorth i sefydlu cwmnïau technoleg newydd yng Nghymru a chanfod cyfleoedd ar gyfer datblygu cynnyrch newydd.

Bydd y sector preifat ynghyd â’r sector cyhoeddus yn buddsoddi mewn unrhyw gwmnïau newydd o’r fath drwy gronfa a reolir, yn gyfnewid am gyfran o’r ecwiti.

Bydd y cynllun cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â sefydliad Wesley Clover Syr Terry Matthews a Sefydliad Waterloo, a’i weinyddu gan sefydliad nad yw’n gwneud elw o’r enw ‘Alacrity’.

Y bwriad ar hyn o bryd yw cynnal y prosiect am bum mlynedd, a bydd Llywodraeth y Cynulliad yn darparu ychydig dros £2.8 o filiynau yn yr un modd â phartneriaid eraill Alacrity.

“Rwy’n hapus iawn i gydweithio â Llywodraeth Cynulliad Cymru a chefnogwyr eraill Sefydliad Alacrity er mwyn ceisio creu cenhedlaeth newydd o gwmnïau Cymreig ym maes technoleg,” meddai Syr Terry Matthews.

“Mae gan raddedigion Cymru ddoniau lu ac mae’r buddsoddiad sylweddol hwn yn Sefydliad Alacrity yn cynnig cyfle entrepreneuraidd euraidd i’r timau.”

“Bydd Alacrity yn gweithredu rhaglenni datblygu a fydd yn addysgu graddedigion addawol ym maes peirianneg a busnes ynghylch datblygu cwmnïau technoleg lwyddiannus.

“Caiff graddedigion eu neilltuo i brosiectau sy’n sail i gynnyrch neu wasanaeth gwirioneddol ym maes technoleg.

“.Bydd y timau hyn yn creu cynnyrch a fydd yn datrys y problemau busnes hyn ac yn creu sicrwydd o ymrwymiad dan gontract.

“Bydd y timau prosiect llwyddiannus yn ffurfio cwmnïau technoleg newydd, a bydd y graddedigion yn parhau i dderbyn cefnogaeth a chymorth ariannol er mwyn eu rhoi ar eu blaen.”