Jane Davidson
Fe fydd y Llywodraeth yn ceisio newid y drefn gynllunio, fel bod llai o geisiadau’n cael eu hanfon at weinidogion.
Fe allai hynny ei gwneud hi’n fwy anodd i wrthwynebu rhai cynlluniau sy’n mynd yn groes i gynlluniau lleol, gan gynnwys stadau tai gyda llai na 150 o unedau.
Ond fe fyddai’r cynigion newydd yn cryfhau’r ddarpariaeth ynglŷn â datblygu ar dir sy’n debyg o ddiodde’ o lifogydd.
Mae’r broses o ymgynghori ynglŷn â’r argymhellion wedi dechrau ac, yn ôl y Llywodraeth, y nod yw osgoi “oedi diangen” fel bod Llywodraeth y Cynulliad a chynghorau lleol yn gwneud y gorau o’u hadnoddau.
Dadl y Llywodraeth yw bod llawer o geisiadau’n cael eu hanfon at y Gweinidog, ond mai ychydig o’r rheiny sydd wedyn yn cael eu penderfynu ganddi hi.
“Mae’r cynigion hyn wedi eu creu i’n helpu i gael system gynllunio sy’n cydweddu â chynlluniau datblygu lleol,” meddai’r Gweinidog, Jane Davidson.
Y manylion
Fe fyddai’r argymhellion yn golygu bod llai o geisiadau’n cael eu hanfon at y Llywodraeth os ydyn nhw’n torri amodau cynlluniau datblygu lleol – o dan y drefn newydd, fe fyddai’n rhaid i ddatblygiad fod yn 150 o unedau preswyl neu fwy, neu’n ymwneud â mwy na 14.4 erw.
Ar hyn o bryd, mae’n rhaid tynnu sylw gweinidogion at unrhyw ddatblygiad sydd am gael ei ganiatáu os yw’n groes i’r cynllun datblygu.
Ar y llaw arall, fe fydd y rheolau am ddatblygiadau ar dir llifogydd yn cael eu cryfhau ac fe fydd rhaid anfon ceisiadau at weinidogion os ydyn nhw’n cynnwys deg neu fwy o unedau tai, yn ymwneud â gwasanaethau brys neu ddatblygiadau tebyg neu wedi eu gwrthwynebu gan Asiantaeth yr Amgylchedd.