Chris Needs yn dangos un o'r posteri
Fe ddechreuodd ymgyrch i dynnu sylw at ddegau o filoedd o bobol yng Nghymru sy’n diodde’ o glefyd marwol, heb wybod hynny.

Yn ôl yr elusen, Diabetes UK Cymru, mae tua 66,000 o bobol yn diodde’ o glefyd siwgr er nad ydyn n nhw’n ymwybodol o hynny.

Os nad yw’r cyflwr yn cael ei drin yn gynnar, medden nhw, mae’n gallu arwain at gymhlethdodau llawer gwaeth.

Bellach, mae’r elusen yn anfon poster gyda gwybodaeth am symptomau’r clefyd i bob meddygfa a siop fferyllydd yng Nghymru ac i fudiadau gwirfoddol a nyrsys hefyd.

Ddim cymaint o sylw

Yn ôl llefarydd, dyw clefyd tawel fel diabetes ddim yn cael cymaint o sylw gan y Llywodraeth â chlefydau mwy dramatig, fel ffliw moch.

“Mae’n hanfodol ein bod ni’n tynnu sylw at y symptomau er mwyn codi ymwybyddiaeth,” meddai Prif Weithredwr yr elusen yng Nghymru, Dai Williams.

“Po gyntaf y mae person yn cael diagnosis diabetes, y cyntaf y gellir ei drin ac mae llai o beyrg y bydd cymhlethdodau’n datblygu.”

Mae seren Radio Wales, Chris Needs, ymhlith y cymeriadau adnabyddus sy’n cefnogi’r ymgyrch.