Tirion Lewis wedi'r ymosodiad
Mae’r dyn a ymosododd ar y ferch ifanc, Tirion Lewis, yn Aberystwyth wedi cael ei garcharu am o leia’ wyth mlynedd ac efallai am byth.
Fe fydd Wayne Fox, 23, o ardal Aberystwyth, yn cael ei gadw mewn uned ddiogel am dymor amhenodol ar ôl i’r llys glywed ei fod yn diodde’ o gyflwr meddwl oedd yn gwneud iddo glywed gorchmynion.
Yn ôl arbenigwr meddygol, roedd yn dweud ei fod wedi clywed lleisiau’n gorchymyn iddo wneud niwed i’w gyn-gariad 19 oed o Benrhyncoch. Roedd Wayne Fox bellach yn cael ei drin gyda chyffuriau cryfion iawn ac roedd angen gofal meddygol arno, meddai.
Roedd Fox wedi pledio’n euog i niweidio Tirion Lewis a’i ffrind, Miriam Evans, ac i droseddau llai.
Fe ddywedodd y Barnwr efallai y byddai’n rhaid ei gadw dan glo am weddill ei oes ac fe ganmolodd Miriam Evans am ei dewrder yn mynd i chwilio am help ar noson yr ymosodiad.