Un o bosteri'r ymgyrch
Mae cefnogwyr addysg Gymraeg yn parhau i brotestio ar ôl i gyngor sir benderfynu o blaid cynlluniau a fydd, medden nhw, yn gwneud drwg i sefyllfa’r iaith.
Mae Cyngor Powys wedi cymeradwyo cynllun i gau deg ysgol gynradd a chodi pedair newydd yng Nghwm Tawe – er bod rhieni’n dweud y bydd ysgol gynradd Gymraeg newydd yn rhy fach.
Maen nhw’n mynnu y bydd Ysgol Brynderi’n llawn o fewn blwyddyn neu ddwy ac na fydd hi’n bosib ei hehangu.
Maen nhw hefyd yn dweud ei bod ymhell o rai rhannau o’i dalgylch ac y dylai fod ynghanol yr ardal.
Protestio
Roedd y rhieni’n protestio y tu allan i gyfarfod o Bwyllgor Cynllunio’r Cyngor Sir yn Ystradgynlais ac maen nhw wedi condemnio cynghorwyr y dref am gefnogi’r cynlluniau.
Mae’r ymgyrchwyr wedi dweud wrth Golwg 360 na chafodd eu pryderon nhw ynglŷn ag ysgol newydd Brynderi wrandawiad teg gan y pwyllgor cynllunio.
Yn ôl Geraint Evans, o’r ymgyrch ‘Dywedwch NA i Frynderi’, doedd gan yr ymgyrch “ddim llais” yn y cyfarfod, er bod cynrychiolwyr Cyngor Tref Ystradgynlais wedi siarad.
“Mae Cyngor Tref Ystradgynlais yn cefnogi’r cynllun hyn – ond dydyn nhw ddim yn siarad dros fwyafrif rhieni’r ardal,” meddai Geraint Evans.
“Mae Cyngor Powys wedi torri Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg y Cynulliad,” meddai, “drwy beidio â mesur y galw am addysg cyfrwng Cymraeg.”
Gweinidog am roi ei farn
Mae’r ymgyrch nawr yn rhoi eu gobeithio yn y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, sydd i fod i roi ei benderfyniad yntau ar y mater ddiwedd y mis.
“Ni’n ffaelu dweud ein bod ni’n hyderus,” meddai Geraint Evans, “achos d’yn ni ddim wedi cael dim cefnogaeth gan Aelodau Cynulliad Llafur lleol. Mae cynghorwyr Llafur lleol yn mo’yn yr ysgol – a nhw sy’n rhedeg cyngor y dref.”
Mae angen ystyried safleoedd eraill, meddai.
Ymateb y Cyngor Sir
Wrth ymateb i gwynion yr ymgyrch ‘Dywedwch Na i Frynderi’, dywedodd Swyddog Cynllunio ar ran Cyngor Powys, Gwilym Davies, fod “pawb wedi cael cyfle i siarad rhywle ar hyd y broses”.
Roedd pobol oedd yn gwrthwynebu oherwydd effaith y cynlluniau ar “ffyrdd, a draenio” wedi siarad, meddai, ond roedd yn honni nad oedd neb o’r ymgyrch ‘Dywedwch NA i Frynderi’ wedi dangos dymuniad i siarad yn y cyfarfod ddydd Llun.”