Mae ofnau o hyd fod Prydeinwyr wedi cael eu lladd yn y gyflafan
Gydag ofnau o hyd fod Prydeinwyr ymysg y rhai a gafodd eu lladd yn y daeargryn yn Japan, cafodd dynes o Gaerdydd newyddion o ryddhad am ei brawd neithiwr.

Roedd Emma Hickebottom wedi cael neges e-bost gelwyddog yn dweud bod ei brawd Brian, athro Saesneg yn Japan, wedi marw. Ond ar ôl penwythnos o artaith clywodd oddi wrtho’n hwyr neithiwr yn dweud ei fod ef a’i wraig Sanae a’i ferch fach bum mis oed, Erin, yn ddiogel.

“Fe lwyddodd i gysylltu i ddweud ei fod yn saff, mae ei fabi a’i wraig gydag efo ac maen nhw ar drydydd llawr ysgol yn Sendai,” meddai.

“Mae pobl sy’n ei adnabod am geisio dod i’w nôl oddiyno heddiw, ond dydyn nhw ddim yn gwybod os gallan nhw wneud hynny oherwydd cyflwr y ffyrdd.

“Fe ges i rhyddhad mawr,” meddai.

“Ro’n i wedi cael e-bost spam yn dweud ei fod wedi marw, ond wrth lwc doedd dim sail o gwbl i hynny, mae’n rhaid mae rhywun sâl ei feddwl a’i gyrrodd.”

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Tramor William Hague heddiw fod rhai Prydeinwyr yn dal i fod ar goll yn Japan.

Er bod 17,000 o ddinasyddion Prydain yn Japan pan drawodd y daeargryn, does dim cadarnhad eto fod neb ohonyn nhw wedi cael eu lladd.

Mae William Hague yn apelio ar i unrhyw Brydeinwyr sydd yn Japan neu sydd newydd adael gysylltu â’r Swyddfa Dramor neu Lysgenhadaeth Prydein yn Tokyo i gadarnhau eu bod nhw’n saff.