Mae tîm o ymchwilwyr damweiniau o’r Adran Drafnidiaeth yn ymchwilio i ddamwain awyren gerllaw Pontarddulais ddoe lle cafodd un dyn ei lladd ac un arall ei anafu.

Roedd yr awyren ysgafn wedi glanio ar ei tho ar ôl taro llinell drydan ac osgoi taro tŷ drwch blewyn ger Ffordd Gwenlais yn ardal Grovesend ar gyrion Abertawe.

Mae’n amlwg bellach y gallai llawer mwy o bobl fod wedi cael eu lladd gan i’r awyren osgoi taro tŷ a chanolfan ardddio.

“Mae safle’r ddamwain yn agos iawn i’r M4 yn ogystal â Chanolfan Arddio Pontarddulais,” meddai David Beynon, un o gynghorwyr tref Pontarddulais.

“Mae’r ganolfan arddio’n brysur iawn fel arfer yr adeg yma ar ddydd Sul, felly fe allai’r digwyddiad fod wedi bod yn drychineb mawr.

“Mae pawb yn yr ardal yn meddwl am y truan a fu farw, ond mewn ffordd mae’n ffortunus iawn na chafodd mwy o bobl eu lladd.”

Achubwyr

Ymysg y rhai cyntaf yno oedd tîm bad achub glannau Llwchwr.

“Fe gawson ni wybod bod damwain gerllaw moryd Llwchwr,” meddai swyddog meddygol y tîm, Richard Lake.

“Pan gyrhaeddon ni, fe welson ni fod un o’r dynion wedi marw ar unwaith, a bod y llall yn dioddef anafiadau sylweddol, ond heb fod yn rhai a oedd yn peryglu ei fywyd.”

Nid yw’n glir eto beth a achosodd y ddamwain, ond credir bod methiant yr injan yn un posibilrwydd.

Meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru:

“Yn fuan ar ôl 1.30pm fe ddisgynnodd awyren ysgafn ar dir amaethyddol ger Pontarddulais.

“Roedd dau ddyn ar fwrdd yr awyren. Cafodd un ei drosglwyddo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Treforys. Cadarnhawyd bod y llall wedi marw yn y fan a’r lle.”