Dinistr yn Japan
Mae diffoddwyr tân o Gymru ar eu ffordd i Japan er mwyn cynorthwyo’r gwasanaethau brys yn dilyn y daeargryn a’r tsunami yno.

Dywedodd y gwasanaeth wrth Golwg 360 ddoe eu bod nhw’n disgwyl am yr alwad i adael, ac maen nhw bellach wedi cyrraedd y wlad ar ôl gadael o faes awyr Manceinion.

Mae’r diffoddwyr tân o Wasanaeth Tân ac Achub Gorllewin a Chanolbarth Cymru yn ymuno â chriwiau eraill o bob cwr o’r wlad.

Bydd 59 o ddiffoddwyr tân yn teithio o Brydain i Japan, yn ogystal â thîm meddygol a dau gi achub. Mae’r cŵn yn arbenigo ar ddod o hyd i bobol sy’n gaeth dan rwbel.

“Fe wnawn ni bopeth o fewn ein gallu i helpu, a gobeithio y bydd ein presenoldeb yno yn gwneud gwahaniaeth, yn achub bywydau, ac yn gymorth i’r bobol ymdopi â sgil effeithiau beth sydd wedi digwydd,” meddai Gwyn Lewis, arweinydd y tîm o ganolbarth Cymru.

Roedden nhw wedi bod yn rhan o’r gwaith achub ar ôl y daeargryn yn Haiti, a dim ond ddydd Gwener ddaeth diffoddwyr tân o Gymru yn ôl o Cristchurch yn Seland Newydd.

“Rydyn ni wedi hyfforddi ar gyfer hyn. Fe fyddwn ni’n cysgu ar yr awyren ac yn barod i ddechrau gweithio yn syth ar ôl cyrraedd,” meddai Gwyn Lewis.