Mae’r Heddlu wedi rhyddhau lluniau o datŵs dyn gafodd ei losgi’n ddrwg mewn tân yn y gobaith y bydd y cyhoedd yn eu hadnabod.

Mae’r dyn mewn cyflwr critigol mewn uned arbennig yn Ysbyty Abertawe. Mae’r heddlu yn credu fod rhywun wedi ymosod arno nos Fercher diwethaf.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Westy Gateway Express, Casnewydd, yn dilyn tân o flaen yr adeilad.

Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio er mwyn cael gwybod a oedd y tân wedi ei gynnau yn fwriadol ai peidio.

“Rydyn ni bellach wedi cadarnhau, yn dilyn archwiliad meddygol, fod rhywun wedi ymosod ar y dyn,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.

Dyw’r Heddlu ddim yn siŵr pryd ddigwyddodd yr ymosodiad nac ym mhle. Maen nhw eisoes wedi arestio dyn 27 blwydd ar amheuaeth o ymosod.

Disgrifiad

Mae gan y dyn 25-30 oed wallt byr tywyll, corff tenau ac mae o tua 5’8”.

Mae ganddo ddau datŵ ar ei fraich – un tatŵ llwythol ar dop ei fraich chwith, a menyw yn gwisgo het ar dop ei fraich dde.

Dywedodd yr Heddlu nad ydyn nhw’n gallu rhyddhau manylion penodol am anafiadau’r dyn.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu unrhyw un a oedd yn yr ardal rhwng 7pm a 10.15pm, alw’r Heddlu ar 01633 838 111 neu alw Taclo’r Tacle ar 0800 555111.