Ni fyddai angen unrhyw arian cyhoeddus er mwyn adeiladu morglawdd ar draws Môr Hafren, yn ôl Peter Hain.

Dywedodd ysgrifennydd Cymru’r wrthblaid y byddai cwmnïau preifat yn bwrw ymlaen â’r cynllun i adeiladu’r morglawdd pe bai ganddyn nhw gefnogaeth Llywodraeth San Steffan.

Y gred yw y byddai’r morglawdd 10 milltir o hyd yn gallu cynhyrchu 5% o drydan Gwledydd Prydain.

Penderfynodd y llywodraeth ym mis Hydref nad oedd yna unrhyw “achos strategol” o blaid adeiladu’r morglawdd. Fe fyddai wedi costio £20-£30 i’w adeiladu.

Dywedodd Peter Hain wrth yr Yr Uwch-bwyllgor Cymreig ddoe bod “datblygwyr posib wedi ei gwneud hi’n glir i fi nad oes angen unrhyw nawdd cyhoeddus”.

“Fe fyddai’r morglawdd yn creu 35,000 o swyddi, a’u hanner nhw yn Ne Cymru. Fe fyddai 10,000 o swyddi parhaol yn cael eu creu o amgylch yr aber.

“Byddai’r cyfle i adeiladu ffordd a rheilffordd dros y morglawdd hefyd o fudd mawr i economi Cymru.

“Os ydi’r Llywodraeth yn fodlon troi cefn ar gyfle mor dda ag egni llanw’r Hafren does gan eu strategaeth egni gwyrdd ddim hygrededd o gwbl.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, nad oedd unrhyw beth yn atal cwmnïau rhag gwneud cais am yr hawl i adeiladu’r morglawdd.