Mae arweinydd cyngor Abertawe wedi galw am ddefnyddio arian o Ewrop er mwyn trydaneiddio’r rheilffordd o Gaerdydd i’r ddinas.

Ar Ddydd Gŵyl Dewi cyhoeddodd Llywodraeth San Steffan y bydden nhw’n bwrw ymlaen â chynlluniau i drydaneiddio’r rheilffordd o Lundain i Gaerdydd.

Ond roedd siom yn Abertawe am nad oedden nhw wedi eu cynnwys yn y cynllun.

Dywedodd arweinydd cyngor y ddinas, Chris Holley, bod arian o Ewrop eisoes wedi talu am drydaneiddio rheilffyrdd yn Llydaw a Sbaen.

“Roedd pawb yn Abertawe yn siomedig iawn â chynlluniau’r Llywodraeth i beidio trydaneiddio’r rheilffordd hyd at Abertawe,” meddai.

“Fe ddylen ni ystyried gwneud cais am arian o Ewrop fyddai’n gallu talu am drydaeniddio’r rheilffordd i Abertawe. Mae arian o Ewrop eisoes wedi ei ddefnyddio er mwyn talu am drydaneiddio rheilffyrdd Ffrainc a Sbaen.

“Mae angen i’r Llywodraeth ymchwilio i’r dewis yma ar fyrder fel bod Abertawe yn cael elwa ar gyswllt cyflym â Llundain a thu hwnt.”

Dywedodd Chris Holley bod arian o Ewrop eisoes wedi talu am ddatblygu rheilffordd TGV Llydaw.

Cyfrannodd Cronfa Datblygiad Rhanbarthol Ewrop £100 miliwn at gost £263 miliwn y rheilffordd rhwng Rennes a Kemper.

“Mae angen i wleidyddion San Steffan a Bae Caerdydd weithredu nawr er mwyn ennill y nawdd Ewropeaidd nesaf,” meddai.