Mae cynghorydd lleol yn Llŷn yn rhybuddio bod y boblogaeth yn cael ei “gwaedu allan o’r ardal” oherwydd prisiau tai uchel.

Fe ddaw sylwadau Gruff Williams wedi i un tŷ yn Rhoshirwaun gael ei roi ar y farchnad am filiwn o bunnau, ac wrth iddo yntau weld tai yn Nefyn, ei ward ei hun, ar werth am hanner miliwn.

Mae’n cymharu’r sefyllfa â gwacâd Ucheldiroedd yr Alban rhwng y 18fed a 19eg ganrif – digwyddiad wnaeth ddinistrio diwylliant y Gael yno.

“Beth wyt ti’n cael yw rhyw fath o Highland Clearances i mewn yng nghefn gwlad, lle dydi pobol ddim yn medru fforddio cael tai i’w plant,” meddai Gruff Williams wrth golwg360.

“Ddim jest y tai sy’n gostus, does dim gwaith yma. Mae’r boblogaeth yn cael ei gwaedu allan o’r ardal. Os wyt ti isio gwaith yn y pen yma rwan, ti’n sôn am orfod mynd i Gaernarfon neu i Fangor i chwilio am waith.

“Ac mae’r cyflogau gewch chi hyd yn oed pan gewch chi swydd, mae’n cael ei lyncu fyny gan drafaelio. Ti’n sôn am commute o Aberdaron i Gaernarfon neu Bangor o ddwy awr neu dair, bob dydd.”

Etifeddiaeth ar werth

Fe gafodd y tŷ pedair llofft, Methlem, yn Rhoshirwaun ger Aberdaron ei roi ar y farchnad dri mis yn ol, a hynny am £1,000,000.

Yn ogystal â’r cyn-ffermdy helaeth, mae yna 4 acer o dir a digonedd o le parcio – a dau gae bach ar gyfer pori ceffylau.

Yn ôl y gwerthwyr, cwmni Rhian Chirgwin Estate Agents ym Mhwllheli, mae “amryw o bobol” – yn Gymry ac yn Saeson – wedi dangos diddordeb ynddo.

Cyfrifoldeb Bae Caerdydd

Mae Gruff Williams yn mynnu bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno polisïau yn lled ddiweddar er mwyn mynd i’r afael â’r broblem o bobol o ffwrdd yn prynu, a bod y rheiny’n cynnwys codi treth cyngor 50% ar dai haf.

Er hynny, mae’r cynghorydd yn nodi bod cyfrifoldeb ar weinidogion yng Nghaerdydd i i fynd i’r afael â’r broblem, ac mae’n beirniadu ymdrechion diweddar i lunio polisi, yn cynnwys canllaw’r TAN 20.

“Yr hyn dw i isio gweld ydi’r Cynulliad yn mabwysiadu’r Localism Act sydd gen ti yn Lloegr,” meddai Gruff Williams, “fel ein bod ni’n medru defnyddio hwnnw fel St Ives a llefydd eraill yng Nghernyw i gyfyngu ar dai o’r newydd i fod yn dai haf.

“Yr unig ffordd ymlaen yw bod y Cynulliad yn dod i ffwrdd o’i high horse ac yn derbyn y ddeddf yma sydd yn weithredol yn Lloegr fel ein bod ni’n gallu achub hynna o Gymreictod fydd gynnon ni ar ôl.”