Matthew Scully-Hicks (Llun: PA)
Mae llys wedi clywed bod dyn sydd wedi ei gyhuddo o lofruddio ei ferch fabwysiedig wedi ei galw’n “Satan” mewn negeseuon destun.

Mae Matthew Scully-Hicks o Gaerdydd wedi ei gyhuddo o ladd Elsie Scully-Hicks trwy achosi cyfres o anafiadau difrifol iddi ym mis Mai 2016 – pan oedd hi yn 18 mis oed.

Roedd y plentyn wedi cael ei mabwysiadu’n swyddogol gan Matthew Scully-Hicks a’i ŵr Craig Scully-Hicks, bythefnos cyn ei marwolaeth.

Gwnaeth profion ysbyty ddarganfod bod y ferch fach wedi dioddef o waedlif ar bob ochr o’i phenglog a hefyd wedi torri nifer o esgyrn, gan gynnwys ei hasennau, ei choes a’i phenglog.

Mae’r erlyniad yn mynnu mai Matthew Scully-Hicks sydd yn gyfrifol am achosi’r anafiadau a arweiniodd at ei marwolaeth tra bod y diffynnydd yn gwadu un cyhuddiad o lofruddiaeth.

Negeseuon destun

Ar ddydd Llun (Hydref 23) clywodd  Llys y Goron Caerdydd am sawl neges destun a gafodd eu hanfon gan Matthew Scully-Hicks i’w ŵr gan gynnwys un lle ddywedodd: “Mae Elsie wedi bod yn Satan am ddwy noson.”

Mewn un neges dywedodd ei fod yn “mynd trwy uffern gydag Elsie” ac mewn un arall dywedodd ei fod yn “teimlo’n barod i ffrwydro” gan ychwanegu: “mae’r dyddiau diwethaf wedi bod yn anodd”.

Mewn cyfweliad gyda’r heddlu ym mis Mehefin 2016, dywedodd Matthew Scully-Hicks bod Elsie yn “ferch hapus.” Mewn cyfweliad diweddarach fe ddywedodd ei fod e hefyd yn awyddus i gael atebion i geisio darganfod beth oedd wedi achosi anafiadau ei ferch.

Mae’r achos wedi’i ohirio tan ddydd Mawrth.