Tonnau ar brom Aberystwyth Llun: Golwg360
Mae’r gwaith glanhau ar brom Aberystwyth yn parhau’r bore yma wedi i’r dref gael ei tharo gan wyntoedd cryfion a llanw uchel o ganlyniad i Storm Brian ddydd Sadwrn.

Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi cadarnhau y bydd “heol Glan-y-Môr yn Aberystwyth o gyffordd Ffordd y Môr, i gyffordd Maes Albert (rhwng y Bandstand a hen Swyddfa’r Sir) ar gau i gerbydau tan ddydd Llun, 23 Hydref, oherwydd y gwaith clirio yn dilyn Storm Brian.”

 

Mae Trenau Arriva Cymru hefyd yn annog pobol i wirio eu teithiau cyn dechrau teithio gyda rhai trenau o gwmpas Y Bermo, Machynlleth, Llandudno, Blaenau Ffestiniog ac Abergwaun wedi’u gohirio.