Mae llanc 17 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad yn Rhymni yn Sir Fynwy y bore ma.

Tarodd ei gar Peugeot 206 oren yn erbyn car oedd wedi cael ei barcio ar Stryd Moriah am 3.30yb.

Mae un person arall yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ym Merthyr Tudful am anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.