Cyrch Cyffuriau Bangor (Llun Heddlu'r Gogledd)
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi darganfod cyflenwad o’r hyn maen nhw yn credu sy’n gyffuriau caled yn Llys Mai yn ninas Bangor, ac mae dynes yn ei phedwar degau wedi ei harestio.

Hefyd daethpwyd o hyd i offer cymryd cyffuriau a’r bwriad yw holi’r ddynes sydd yn y ddalfa.

“Rydym yn benderfynol o gadw ein cymunedau yn ddiogel a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth gweladwy er mwyn tawelu meddyliau,” meddai’r Arolygydd Owain Llewellyn sy’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Bangor.

“Roedd yn hollol amlwg o’r ymateb yn lleol i’r cyrch cyffuriau’r bore yma bod ein gweithredoedd wedi cael croeso cynnes ac mae mwy o weithredu ar y gweill.”