Mae ymchwilwyr o Brifysgol Bangor wedi cychwyn astudio nodweddion seicolegol chwaraewyr academi clwb pêl-droed Manchester City.

Bydd y gwaith yn para am bedair blynedd a’r gobaith yw adnabod a deall nodweddion seicolegol sy’n helpu chwaraewyr ifanc i gyrraedd eu potensial.

Gobaith Man City yw y bydd yr ymchwil yn eu galluogi i wella datblygiad chwaraewyr ifanc.

“Hynod falch”

“Rydym yn hynod falch o dderbyn cyllid ar gyfer Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol ac Efrydiaeth PhD i ddatblygu’r project ymchwil hwn gyda City Football Services,” meddai trefnwyr y prosiect mewn datganiad.

“Mae’r swyddi hyn wedi cael eu llenwi gan Chin Wei Ong a Séamus Harvey.  Mae’n gyfle gwych i’r Sefydliad Seicoleg Perfformiad Elît ym Mhrifysgol Bangor.”