Mick Antoniw AC (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymdrin â Brexit mewn modd sy’n peryglu “democratiaeth seneddol” yng ngwledydd Prydain.

Dyna ddywedodd Cwnsler Cyffredinol Cymru, Mick Antoniw AC, wrth draddodi Darlith Mather Jackson, ym Mrynbuga neithiwr (Hydref 19).

Cyfeiriodd at y Mesur Ymadael – mesur a fydd yn troi cyfraith Ewropeaidd yn gyfraith Brydeinig – fel ymgais gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig “i fachu pŵer”.

A mynnodd hefyd bod y Llywodraeth wedi osgoi craffu seneddol, a’u bod yn “defnyddio pwerau Harri’r VIII yn y fath fodd a fyddai wedi codi cywilydd ar y Brenin ei hun hyd yn oed”.

Ffederaliaeth

O ganlyniad i’r materion cyfansoddiadol sydd yn codi ynghylch Brexit, mae Mick Antoniw wedi galw am strwythur “fwy ffederal” i’r Deyrnas Unedig.

“Ar yr adeg hon o newid mawr, rydyn ni’n meddwl bod yr amser wedi dod i ad-drefnu’r Deyrnas Unedig gan ddefnyddio strwythurau newydd, mwy ffederal,” meddai.