Mae cylchgrawn Golwg wedi datgelu bod nifer y digartref yng Nghaerdydd wedi dyblu mewn tair blynedd.
Yn ôl amcangyfrif Llywodraeth Cymru, mae 83 o bobol yn cysgu ar strydoedd y brifddinas.
Ac mae’r elusennau sy’n ymwneud â’r digartref ar fin cyhoeddi ymgyrch newydd i geisio delio â’r cardota sy’n fwyfwy amlwg yn y ddinas.
Yn ôl Cyngor Caerdydd mae 24 o bobol yn cardota yng nghanol y ddinas fel arfer – ond ar un diwrnod gêm rygbi rhyngwladol roedd 64 o bobol yn begera am arian ar y strydoedd.
Mae’r broblem ar gynnydd yn y brifddinas oherwydd cymysgedd o bolisïau llymder, problemau rhentu’n breifat a newidiadau yn y ffordd mae pobol yn derbyn eu budd-daliadau, meddai rheolwr y Big Issue yng Nghymru.
Ac yn ôl Beth Thomas, mae nifer y cardotwyr yng Nghaerdydd yn broblem enfawr i’r 45 o bobol sy’n codi arian drwy werthu’r cylchgrawn yn y brifddinas.
“Mae ein gwerthwyr yn cael trafferth gyda phobol yn cardota ar eu pitsh nhw, maen nhw’n intimidating,” meddai.
“Roedd arfer bod man gwerthu gennym ni y tu allan i orsaf drên Stryd y Frenhines, ond bydd neb yn gwerthu yno rhagor. Roedd llawer o fwlio yno a chafodd ddim byd ei wneud am y peth.
“Rydyn ni’n colli mannau gwerthu, maen nhw yn aml yn cael [pobol yn cardota] yn brolio bod nhw ddim yn ennill cymaint o arian a gallech chi petaech chi’n cardota.
“Mae’n staff ni yn ceisio siarad â nhw, yn ceisio cael nhw i werthu gyda ni ond mae pobol yn gwneud mwy o arian yn cardota.”
Ymchwiliad arbennig am ddigartrefedd Caerdydd yn rhifyn wythnos yma o Golwg.