Chris Coleman
Mae Rheolwr tîm pêl-droed Cymru wedi dweud bod Cymru am “fynd amdani” oddi cartref yn erbyn Georgia heno.
Gyda’r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd Rwsia 2018 yn dirwyn i ben, mae Chris Coleman yn mynnu bydd ei dîm yn “ymosodol” er gwaethaf absenoldeb y chwaraewr euraidd – Gareth Bale.
“Rydym ni’n mynd yna i sgorio goliau, ac mae’n rhaid i ni sicrhau mai ni sydd yn ymosodol,” meddai Chris Coleman ar drothwy’r gêm yn Tblisi.
“Gan mai pêl-droed rhyngwladol yw hyn, bydd yna adegau pan fydd yn rhaid i ni amddiffyn. Ond, pan gawn gyfleoedd, bydd yn rhaid i ni fynd amdani.”
Gemau rhagbrofol
Ar hyn o bryd mae Cymru yn ail yn eu grŵp – tu ôl Serbia – a gyda dwy gêm ragbrofol ar ôl yn erbyn Georgia a Gweriniaeth Iwerddon.
Nid yw Georgia wedi ennill unrhyw un o’u gemau rhagbrofol ond maen nhw wedi cael gêm gyfartal ym mhump o’u wyth gêm.
Georgia v Cymru yn fyw am bump ar S4C.