Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn ymosodiad rhyw yng Nghasnewydd nos Fawrth (Hydref 3).
Cafodd dynes ei llusgo i mewn i gar y tu allan i siop Spar ar Ffordd Caerleon tua 8.25yh gan ddyn oedd yn ei hadnabod hi.
Cafodd ei gyrru i dŷ cyfagos, lle honnir iddi ddioddef ymosodiad rhyw. Mae’r ddynes yn ddiogel ac yn derbyn cymorth arbenigol.
Mae Heddlu Gwent yn awyddus i siarad â dynes oedd wedi mynd i mewn i’r siop i alw am gymorth yr heddlu.