Twr-y-felin, Tyddewi (Llun oddi ar wefan y gwesty)
Gwesty yn Nhyddewi sydd wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau Lletygarwch Cymru yr AA ar gyfer 2017.

Yn y seremoni neithiwr (Medi 25) fe ddaeth Tŵr-y-Felin o Dyddewi i’r brig yn y gystadleuaeth.

Yn ennill cystadleuaeth y bwyty gorau yng Nghymru gan yr AA oedd bwyty Beach House ym mae Oxwich, Penrhyn Gŵyr.

Ac yn dod i’r brig am y dafarn orau yng Nghymru oedd tafarn Bryn Tyrch yng Nghapel Curig sy’n cael ei disgrifio i fod yn dafarn “swynol” gyda golygfeydd o fynyddoedd Eryri.

Mae’r AA wedi archwilio a beirniadu gwestai dros gan mlynedd, ac fe gafodd bwyty Ynyshir ger Machynlleth, Sosban and the Old Butchers Ynys Môn a gwesty Palé Hall Y Bala wobrau ychwanegol.