Jill Evans ASE
Mae’r Aelod Senedd Ewropeaidd, Jill Evans, wedi galw ar lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig i ymrwymo i gefnogi cytundeb yn erbyn arfau niwclear.

Nod y Cytundeb ar Waharddiad Arfau Niwclear, yw gwahardd arfau niwclear gyda’r nod yn y pendraw o’u gwaredu’n llwyr.

Daw’r galw ar ‘Ddiwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros Ddiddymiad Llwyr Arfau Niwclear’ sydd yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar Fedi 26.

 Dyddiad arwyddocaol

Mae’r dyddiad yn un arwyddocaol gan mai dyma’r dyddiad yn 1983 pan wnaeth y byd osgoi rhyfel niwclear o drwch blewyn.

Ar y diwrnod hwn y derbyniodd y swyddog Sofietaidd, Stanislav Petrov, neges radar yn awgrymu bod yr Unol Daleithiau wedi tanio taflegrau niwclear at Rwsia.

Penderfynodd y swyddog – yn gywir – bod y neges radar yn un wallus.

“Er budd dynoliaeth” 

“Heddiw, mae’r bygythiad o ryfel niwclear yn digwydd ar gamgymeriad yn anffodus yn hynod o real,” meddai’r Aelod Senedd Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans.

“Er budd dynoliaeth, rhaid i ni symud tuag at fyd lle nad yw holocost niwclear yn bosib. Gall hyn ond gael ei wireddu trwy ddiarfogi niwclear llwyr ledled y byd.

“Dw i’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ymrwymo i fynd i gynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar ddiarfogi niwclear flwyddyn nesaf, ac i gefnogi’r Cytundeb Gwahardd.”