Rory Coleman gyda'i wraig.
Ugain mlynedd ers iddo gefnu ar sigarets, alcohol a bwyd afiach, mae dyn 55 oed o Gaerdydd ar fin rhedeg ei filfed marathon y penwythnos hwn.

Roedd Rory Coleman o Gaerdydd yn arfer smygu 40 o sigaréts y dydd, yn yfed ac yn ordew… a deunaw mis yn ôl fe aeth yn sâl â chlefyd prin a’i gadawodd mewn cadair olwyn.

Ar ôl bod mewn man “eitha’ tywyll” dros 20 mlynedd yn ôl, dywedodd wrth golwg360 fod adduned flwyddyn newydd wedi newid ei fywyd.

“Nôl yn 1994, roeddwn i mewn rhywle eitha’ tywyll, yn yfed gormod ac yn smygu gormod ac roeddwn i’n ordew… roeddwn i’n anhapus iawn,” meddai.

“Yn Nadolig 1993 roeddwn i’n sâl iawn, dw i’n credu oedd rhyw fath o epidemig ffliw, felly wnes i gael ofn o’r hyn roedd smygu yn gwneud i mi.

“Ar 5 Ionawr 1994, wnes i ryw fath o adduned flwyddyn newydd a stopiais yfed, smygu a mynd ar ddeiet. Wnes i ddim meddwl dod yn rhedwr ond yr hyn ro’n i’n gwybod, unwaith yr oeddwn i yn cyrraedd adref, roedd yn rhaid i fi fynd am run.

“Rhedais 100 o gamau yn y tywyllwch, yn fy nillad gwaith, mewn esgidiau lledr, dim dillad rhedeg o gwbl a wnes i bron â marw ar y palmant!

“Ond doedd dim ots am hynny achos roeddwn i wedi dod o hyd i fy mheth i, mae e wedi bod yn therapi i fi am dros 20 mlynedd.”

Rhedeg marathon bob penwythnos

Rhedodd Rory Coleman ei hanner marathon cyntaf tri mis ar ôl hynny ac wedyn rhedeg ei farathon cyntaf ym mis Tachwedd yr un flwyddyn.

“Wnes i redeg Marathon Llundain ar 2 Ebrill 1995, y penwythnos wedyn wnes i redeg marathon arall a’r penwythnos ar ôl hynny wnes i un arall a dw i wedi bod yn gwneud hynny byth ers hynny.”

Bydd ei farathon nesaf yn Nottingham ddydd Sul – ei filfed – ac mae Rory Coleman wedi rhedeg y Marathon des Sables – sy’n croesi y Sahara 14 o weithiau.

“Dw i’n dwlu arno fe, mae’n rhywbeth mor bositif i wneud, mae yfed a smygu yn bethau mor negatif i wneud.

“Dw i yng nghanol Caerdydd ar hyn o bryd yn edrych ar ryw 20 o bobol y tu allan i gyd yn smygu a dw i’n meddwl bod nhw’n wallgof. Dw i’n methu credu bod fi’n arfer gwneud hynny.

“Dw i newydd jogio i dre i wneud bach o siopa, dw i’n rhedeg i bob man!”

Ei ras anoddaf, meddai, oedd ‘ultra marathon’ – 145 o filltiroedd rhwng camlesi Birmingham a Llundain.

“Roedd hi’n bwrw glaw ac roedd fy nhraed i mor wlyb, cwympodd gwaelod fy nhroed jyst i ffwrdd ar y 70fed milltir a wnes i jyst gario ymlaen, mae’n rhaid i chi flocio’r poen achos ro’n i’n drydydd yn y ras a doeddwn i ddim eisiau colli’r safle hwnnw.”

Cyfnod mewn cadair olwyn

Mae rhedeg wedi trawsnewid bywyd Rory Coleman, a adawodd ei swydd i hyfforddi pobol i redeg yn llawn amser.

Ond deunaw mis yn ôl, aeth yn sâl ar ôl dal clefyd hunanimíwn prin – syndrom Guillain-Barré, a bu’n rhaid iddo dreulio cyfnod mewn cadair olwyn.

“Wnes i dreulio pum mis yn yr ysbyty ac roedd yn rhaid i fi ddysgu sut i gerdded eto. I’r rhan fwyaf o bobol mae’n cymryd tua thair blynedd iddyn nhw ddechrau cerdded a dod yn actif eto, ond dw i wedi gwneud 23 marathon ers hynny.

“Yn fy meddwl i, roeddwn i’n meddwl, ‘dw i wedi bod mewn ambell i dwll yn fy mywyd, sut yn y byd ydw i’n mynd i ddod allan o’r un hwn?’

“Roedd y meddygon yn gallu rhoi’r cyffuriau i fi, roedd y nyrsys yn gallu rhoi gofal i fi, roedd fy ngwraig yno pan oeddwn i’n teimlo’n isel, ond mewn gwirionedd, yr unig berson gall eich cael chi allan o hwnna yw chi eich hunan.

“Y gyfrinach yw dysgu sut i sefyll, os galla’ i sefyll, roeddwn i’n gallu cerdded, os galla’ i gerdded, roeddwn i’n gallu rhedeg ac os oeddwn i’n gallu rhedeg, roeddwn i’n gallu bod ychydig fel y person oeddwn i’n arfer bod.”

Ar ôl ei filfed marathon, mae Rory Coleman yn dweud y bydd yn parhau i redeg eto a bydd yn rhedeg hanner marathon Caerdydd ar 1 Hydref.

“Mae dal gen i fwy o fywyd i fyw ac mae dal gen i fwy o filltiroedd i’w rhedeg gobeithio.”