Mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y bobol sy’n defnyddio’r trên i fynd i’r gwaith yn ne Cymru, meddai cwmni trenau Arriva.

Mewn chwech o orsafoedd yn y De, mae nifer y bobol sydd yn dal trên  i’r gwaith wedi cynyddu o chwarter miliwn o gymharu â’r ffigwr bedair blynedd yn ôl.

Yng  ngorsaf Tregŵyr – gorsaf sydd yn cael ei defnyddio gan lawer i deithio i’w swyddfeydd yn Abertawe – mae niferoedd y teithwyr wedi dyblu.  

Bu twf hefyd yn nifer y bobol fu’n teithio i’r gwaith o orsafoedd y Pîl, Llanharan, Pont-y-clun, Caerffili a Chwmbrân.

 “Trafnidiaeth cynaliadwy”

 “Mae’n ffantastig gweld bod chwarter miliwn person arall wedi dewis defnyddio trafnidiaeth cyhoeddus, mewn dim ond chwech o’n gorsafoedd yn ne Cymru,” meddai Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r cwmni, Lynne Milligan.

Bydd Arriva’n cystadlu eto cyn hir am y drwydded i gynnal gwasanaethau yng Nghymru.