Gwaith dur Port Talbot (Llun: PA)
Dylai Llywodraeth Cymru wrthwynebu’r cynlluniau i uno cwmnïau dur Tata a Thyssenkrupp oni bai bod ymrwymiad tymor hir i ddyfodol y gweithfeydd ym Mhort Talbot, yn ôl yr Aelod Cynulliad, Adam Price.

Mae Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a llefarydd cyllid ac economi Plaid Cymru wedi rhybuddio bod y cynlluniau’n “fygythiad clir i ddyfodol gweithfeydd Port Talbot”.

Mae e wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ysgrifennu llythyr at Awdurdod Cystadleuaeth y DU ac Ewrop yn mynegi eu gwrthwynebiad.

“Brwydr am swyddi”

Mewn datganiad, dywed Adam Price y bydd uno Tata a Thyssenkrupp yn arwain at “frwydr am swyddi”.

“Gyda 27,000 o weithwyr dur yn yr Almaen a chyngor gweithfeydd ac undebau mewn sefyllfa lawer cryfach, mae’n frwydr na fyddwn ni, yng Nghymru, yn ei hennill,” meddai.

“Mae Llywodraeth Cymru, wrth groesawu’r datblygiad hwn, yn dangos yr un difaterwch a diffyg ewyllys â hynny sy’n drysu eu holl bolisi economaidd.

“Am unwaith yn eu bywydau, fe ddylen nhw sefyll i fyny a brwydro.”