Llun: Heddlu Gogledd Cymru
Mae anghysondeb yn parhau yn y modd mae heddluoedd ar draws Cymru a Lloegr yn delio gyda chwynion gan y cyhoedd, yn ôl Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).

Mae ffigurau sydd wedi’u cyhoeddi gan yr IPCC heddiw yn dangos bod 34,103 o gwynion wedi cael eu cofnodi yn 2016/17, bron yr un ffigwr a llynedd, pan gafodd 34,247 o gwynion eu cofnodi.

Serch hynny, meddai’r Comisiwn, mae yna wahaniaeth mawr rhwng y lluoedd o ran nifer y cwynion maen nhw’n eu derbyn a’r ffordd maen nhw’n delio gyda nhw.

Mae’r cwynion gan aelodau’r cyhoedd yn ymwneud yn bennaf ag ymddygiad swyddogion yr heddlu, ac effeithiolrwydd y lluoedd eu hunain.

Cynnydd

Bu cynnydd yn nifer y cwynion y derbyniodd dau o luoedd heddlu Cymru yn 2016/17 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Bu cynnydd o 2% yn nifer y cwynion gan y cyhoedd y derbyniodd Heddlu Gogledd Cymru, a 7% yn nifer y cwynion gafodd eu cofnodi gan Heddlu Dyfed-Powys.

Er hynny, cwympodd nifer y cwynion gafodd eu cofnodi gan Heddlu De Cymru gan 5% ac mi dderbyniodd Heddlu Gwent 12% yn llai o gwynion.

“Hynod o gymhleth”

Mae’r IPCC wedi galw am symleiddio’r sustem gwynion gan nodi bod yr un bresennol yn “hynod o gymhleth.”

“Mae’n rhaid i’r cyhoedd feddu ar lefel uchel o hyder yn sustem gwynion yr heddlu,” meddai Cadeirydd yr IPCC, y Foneddiges Dame Anne Owers.

“Os ydyn nhw’n cwyno am eu llu heddlu, rhaid sicrhau bod y gwyn yn cael ei thrin yn deg. Mae’r sustem bresennol yn hynod o gymhleth a biwrocrataidd ac mae hyn wedi achosi peth o’r anghysondebau rydym wedi cofnodi pob blwyddyn.”

Anghysondebau

Mae’r anghysondebau yn ymwneud a thri phrif beth:

  1. Mae’n bosib nad yw nifer y cwynion sy’n cael eu cofnodi yn adlewyrchu’r darlun llawn gan fod rhai heddluoedd yn ceisio delio gyda’r mater cyn iddo gael ei gofnodi’n gŵyn ffurfiol, tra bod eraill yn cofnodi cwyn cyn gynted a bod y mater yn cael ei godi.
  2. Pan mae cwyn yn cael ei chofnodi mae rhai heddluoedd yn dewis ymchwilio i’r rhan fwyaf ohonyn nhw, tra bod eraill yn defnyddio proses llai ffurfiol “datrysiadau lleol” yn y rhan fwyaf o achosion.
  3. Mae rhywun sy’n anhapus gyda’r ymateb i’w cwyn yn gallu apelio ac mae’r heddlu neu’r IPCC yn delio gyda hyn. Mae’r IPCC yn cefnogi pedwar allan o ddeg o apeliadau ond mae’r heddlu’n cefnogi llai na dwy allan o ddeg ac mae’r ffigwr yma’n newid yn sylweddol rhwng yr heddluoedd.

Fe fydd newidiadau sylweddol i’r system gwynion yn 2018, gan gynnwys ehangu rôl comisiynwyr yr heddlu a throseddu, a fydd yn gallu penderfynu ar apeliadau sydd ddim yn cael eu hystyried gan yr IPCC.