Bydd tollau Pontydd Hafren yn gostwng am y tro cyntaf erioed y flwyddyn nesaf.

O mis Ionawr ymlaen mi fydd gyrwyr ceir yn talu £5.60 yn hytrach na £6.70 i groesi, ac mi fydd yr uchafswm ar gyfer lorïau a bysys yn gostwng o £20 i £16.70.

Daw’r gostyngiad yn sgil cadarnhad gan Lywodraeth Gwledydd Prydain ym mis Gorffennaf, y bydd tollau’r pontydd yn cael eu diddymu’n llwyr erbyn diwedd 2018. 

Yn ôl Llywodraeth Gwledydd Prydain, bydd cael gwared ar y tollau yn rhoi hwb o £100 miliwn i economi de Cymru bob blwyddyn ac mi fydd modurwyr yn arbed £1,400 yn flynyddol.

“Hwb” i Gymru

“Am flynyddoedd mae tollau’r Hafren wedi bod yn rhwystr economaidd a symbolaidd i ffyniant Cymru yn y dyfodol,” meddai Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

“Bydd ein penderfyniad i leihau tollau – cyn eu gwaredu’n llwyr – yn lleihau costau ar gyfer busnes, i deithwyr ac i dwristiaid, gan helpu i roi hwb i swyddi a masnach yng Nghymru a ledled de orllewin Lloegr.”