Aberhonddu
Mae angen i addysg ffrwd Gymraeg Ysgol Uwchradd Aberhonddu wella os yw hi am barhau, yn ôl y dyn a blannodd hadau addysg Gymraeg yn yr ardal.

Wrth siarad ar banel ‘Golwg ar Grwydr’ yn Aberhonddu neithiwr, roedd y cyn-Brifathro John Meurig Edwards yn dweud ei fod yn falch o weld cabinet Cyngor Powys yn penderfynu cadw’r ffrwd Gymraeg ar agor yn dilyn bygythiadau i’w chau.

Ond fe ychwanegodd y dyn wnaeth helpu i sefydlu cylch meithrin Cymraeg cyntaf Aberhonddu yn 1971, bod ffrwd Gymraeg yr ysgol uwchradd wedi crebachu am fod safon yr addysg wedi gwaethygu.

Rhaid i’r ddarpariaeth wella, meddai, a bydd angen cefnogaeth y cyngor sir… a rhieni’r ardal, gan fod nifer ohonyn nhw wedi penderfynu anfon eu plant i ysgolion uwchradd Cymraeg yn Ystalyfera a Llanfair-ym-muallt.

“Dw i’n falch ei bod hi’n parhau yn Aberhonddu, achos byddai fe’n wirion bod yna ddim ffrwd Gymraeg yn Aberhonddu, gyda’r ysgol Gymraeg [gynradd] fwyaf yn y sir [Ysgol y Bannau] jyst groes yr hewl i’r ysgol uwchradd,” meddai John Meurig Edwards a fu’n Brifathro ar Ysgol y Bannau, ysgol gynradd Gymraeg Aberhonddu.

“Yr unig beth sydd wedi digwydd ar hyd y blynyddoedd yw [bod] niferoedd da iawn o blant wedi bod yn mynd trwyddo o addysg gynradd Ysgol y Bannau, ond doedd  y ddarpariaeth uwchradd ddim yn foddhaol, ac roedd lot o rieni yn gofyn am lawer mwy nag oedd yn cael ei gynnig yn yr ysgol uwchradd.

“Felly beth sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf yw bod yna nifer fawr o rieni wedi penderfynu bod nhw eisiau addysg fwy cyflawn i’w plant ac felly mae’r plant yna wedi dechrau gadael i fynd i Ystalyfera yn bennaf.

“Mae yna fws yn mynd lawr, ers sbel bellach, yn mynd â nifer fawr o’r plant o Ysgol Bannau lawr [i Ystalyfera]. Nifer hefyd wedi dewis mynd i Lanfair-ym-muallt yn hytrach nag Aberhonddu, gan feddwl bod gwell darpariaeth yn Llanfair-ym-Muallt, rhyw ychydig hefyd yng ngwaelod y sir yn mynd i Ysgol Gwynllyw ym Mhont-y-pŵl.

“Felly er bod gyda chi gôr eitha’ da o blant yn gadael [Ysgol] y Bannau, roedd e’n chwalu gyda nifer yn mynd i bob cyfeiriad, gyda nifer gymharol fach yn y diwedd yn gorffen lan yn y ffrwd Gymraeg yn Aberhonddu.”

Angen newid

Dywedodd John Meurig Edwards ei fod yn poeni mai dyfodol byr iawn sydd gan y ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, os na fydd pethau yn newid.

“Mae’r awdurdod wedyn, wrth gwrs, yn dweud os nad oes digon o blant yna bellach i gyfiawnhau ei chadw hi ar agor…

“Ond beth sydd angen nawr yw gwella ar beth sydd yna’n barod neu bydd y sefyllfa hon yn codi eto mewn rhyw ddwy flynedd arall. Byddan nhw’n troi rownd ac yn dweud: ‘[Rydych] chi wedi cael dwy flynedd nawr ers i ni roi achubiaeth i chi, a does yna ddim byd wedi newid, niferoedd bach sy’n dal i ddod o hyd’.

“Mae’n rhaid i ddau beth ddigwydd ar hyn o bryd, mae’n rhaid i’r ysgol uwchradd wella ei darpariaeth, mae’n rhaid i’r awdurdod addysg gefnogi’r ddarpariaeth yna ac mae’n rhaid i rieni plant sydd yn yr ysgol Gymraeg roi ffydd yn yr uned yna ac anfon eu plant iddi hi.

“Felly dyna beth sy’n rhaid digwydd i symud pethau ‘mlaen ac i ddatblygu pethau yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu.”

Gan fod “nifer dda iawn” o rieni wedi brwydro i achub y ffrwd, roedd John Meurig yn ofalus hyderus y byddai mwy o fwrlwm ynghlwm â’r ddarpariaeth Gymraeg yn Aberhonddu.