Awyr Lefftenant Geraint “Roly” Roberts, (Llun: Y Weinyddiaeth Amddiffyn)
Mae cwest wedi clywed bod hofrennydd wnaeth blymio o’r awyr yn Afghanistan gan ladd dau filwr o wledydd Prydain, wedi methu a glanio ar gae pêl-droed gan fod pobol ar y cae.

Bu farw’r is-gapteiniaid Geraint ‘Roly’ Roberts, 44,  o’r Rhyl ac Alan Scott, 32, o Lundain pan aeth eu hofrennydd i drafferthion wrth geisio glanio ym mhencadlys canolfan hyfforddiant Nato ym mhrifddinas Afghanistan, Kabul, yn 2015.

Clywodd cwest i’w marwolaethau yn Llys y Crwner Rhydychen, eu bod ymysg pum person  a gafodd eu lladd gan gynnwys gweithiwr diogelwch a dau aelod o staff o’r Unol Daleithiau.

Yn ôl adroddiad o’r digwyddiad a gafodd ei gyhoeddi’r llynedd, cafodd hofrennydd y criw ei ddal mewn tennyn camera oedd wedi’i osod ar falwn arbennig, ar ôl gorfod hedfan o gwmpas y cae.

Tennyn

Dywedodd y Sarsiant Simon Craig – oedd yn hedfan mewn ail hofrennydd yn agos i’r llall – ei fod wedi disgwyl i bobol ar y cae symud, ond gwnaethon nhw ddim.

“Wrth gyrraedd fe wnes i sylweddoli yn eithaf hwyr bod nifer o chwaraewyr pêl-droed ar y cae,” meddai. “Roedd yn rhaid i ni hedfan tuag at y dwyrain oherwydd doedd dim modd i ni lanio tan yr oedd y cae wedi’i glirio.”

Roedd y sarsiant yn dweud eu bod yn ymwybodol o’r balwn a’u bod wedi derbyn rhybudd i’w osgoi, ond dywedodd hefyd bod y tennyn yn “anodd ei weld.”

Marwolaethau

Clywodd y llys bod Geraint Roberts, 44, wedi marw o ganlyniad i anaf i’w ben, fyddai wedi achosi iddo gwympo’n “anymwybodol iawn ac i bob pwrpas yn farw.”

Bu farw Alan Scott o ganlyniad i “anafiadau niferus ac anaf i’w ben” yn ôl adroddiad y Patholegydd Fforensig Dr Nicholas Hunt.