Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddamwain ar ffordd yr A470 rhwng Pontnewydd-ar-Wy a Rhaead ben bore heddiw (dydd Iau).
Fe gafodd yr heddlu eu galw am 6.20yb wedi i gar a lori fod mewn gwrthdrawiad.
Mae’r ffordd wedi bod ynghau yno, ac fe fydd yn parhau felly nes y bydd y cerbydau wedi cael eu symud.
Mae gyrwyr yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal.