Mae cardiau credyd Llywodraeth Cymru wedi cael ei defnyddio i wario miloedd o bunnoedd ar wasanaethau a nwyddau moethus, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.  

Cafodd £1.8m ei wario gyda’r cardiau yn 2016/17 – yn cynnwys £1,652.50 ar saith ymweliad â bwyty seren Michelin ym Mhenarth, a £3,204.32 ar westy moethus yn Chicago.

Mae’r ffigurau wedi eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, ac wedi ennyn beirniadaeth hallt gan y Ceidwadwyr Cymreig.

Gwariant

Ymhlith y gwasanaethau a’r nwyddau y talwyd amdanyn nhw gyda chardiau credyd:

  • £203,644.83 ar deithiau awyren
  • £3,028.22 ar dripiau cychod hwyliau a badau
  • £8,604 ar fwytai
  • £359.38 ar siocled gan gwmni Cymreig, Nom Nom
  • £393.25 ar wisgi o siop ar-lein

“Busnes swyddogol”

Yn ôl llefarydd ar ran Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru, mae’r cardiau yn cael eu defnyddio gan weision sifil ar gyfer “busnes swyddogol”.

“Mae’r cardiau credyd yn cael ei rheoli’n dynn, ac mae rheolau llym yn sicrhau bod pob taliad yn cael ei gofnodi,” meddai.

“Hefyd, mae’n rhaid i bob taliad gael ei gymeradwyo gan uwch swyddog. Mae defnydd y cardiau yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan bob mis, er mwyn sicrhau tryloywder.”