Gerwyn John Williams (Llun: Trwy law Heddlu Dyfed Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi enw gyrrwr beic modur fu farw mewn gwrthdrawiad ar yr A40 ger Pontsenni ddydd Sadwrn.

Bu farw Gerwyn John Williams, 62 oed, o ardal Castell-nedd ar ôl i’w feic modur fod mewn gwrthdrawiad a char  Nissan Qashqai lliw arian am 3.25yp ddydd Sadwrn, 2 Medi.

Ni chafodd unrhyw un oedd yn teithio yn y car eu hanafu.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei deulu ei fod yn yrrwr beic modur brwd a bydd colled fawr ar ei ôl. Roedd yn dad i Jenna, Ashley a’r diweddar Danielle ac yn dad-cu i Courtney Louise.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad ac yn apelio ar dystion i gysylltu â nhw ar 101 gan nodi’r rhif cyfeirnod 203.