Mae pedwar o deithwyr wedi dioddef mân anafiadau wedi i drên daro coeden yn ardal Caerffili ddydd Sul.

Cafodd y pedwar eu trin gan barafeddygon wrth i’r gwrthdrawiad ddigwydd ar y llinell rhwng Llanbradach ac Ystrad Mynach.

Cafodd yr heddlu, swyddogion tân ac achub a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i’r safle tua 9.50yh ddydd Sul, Medi 3.

Mae peiriannwyr Network Rail yn parhau ar y safle yn cynnal atgyweiriadau.