Dynes fydd yn cael ei phenodi’n Ddirprwy Arweinydd cyntaf Llafur Cymru.

Mae’r swydd newydd gael ei chreu ac yn ôl y Farwnes Anita Gale, llefarydd menywod a chydraddoldeb y blaid yn Nhŷ ‘r Arglwyddi, mae angen mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ar frig y blaid.

Bydd y dirprwy arweinydd newydd yn cael ei hethol yng nghynhadledd y blaid ym mis Ebrill.

Ar hyn o bryd, dim ond un o bob pedwar o arweinwyr cynghorau Cymru sy’n fenyw.

Dywedodd y Farwnes Gale wrth raglen Sunday Supplement Radio Wales fod “problem fawr” gan bob plaid wrth ethol menywod i’r prif swyddi.

Bydd rheolau’r etholiad yn cael eu pennu yn ystod y gynhadledd wanwyn ac fe allai’r dirprwy arweinydd newydd fod yn Aelod Cynulliad, yn Aelod Seneddol neu’n gynghorydd.

Ffrae tros restrau menywod-yn-unig

Yn 2005, fe achosodd rhestr menywod-yn-unig ffrae ym Mlaenau Gwent wrth i Peter Law adael y blaid ac ennill etholiad cyffredinol fel aelod seneddol annibynnol.

Fe drechodd Maggie Jones, oedd wedi cael ei dewis fel ymgeisydd oddi ar restr o fenywod yn unig.

Mae’r polisi hwnnw’n bod hyd heddiw.

Mae Huw Lewis a Peter Hain ymhlith y rhai eraill sydd wedi cael eu disodli gan fenyw oddi ar restr menywod-yn-unig.