Pant Teg Ystalyfera - tirlithriadau (Llun: Cyngor Castell-nedd Port Talbot)
Mae’r posibilrwydd y gallai trigolion tai yn Ystalyfera ddychwelyd i’w cartrefi yn dilyn tirlithriadau diweddar, yn ymddangos yn llai tebygol y penwythnos hwn.

Bu’n rhaid i tua 20 o bobol adael Heol Cyfyng yn Ystalyfera yn Awst oherwydd tirlithriadau yn yr ardal.

Ers hynny, mae perchnogion y tai wedi derbyn llythyrau yn gofyn iddyn nhw wneud gwaith cynnal a chadw – yn cynnwys hysbysiadau i drwsio systemau carthffosiaeth a gwneud y gerddi yn ddiogel.

Ond mewn datganiad gyhoeddwyd y penwythnos hwn gan Gyngor Castell Nedd-Port Talbot, mae’r diweddaraf yn codi amheuon eto ynglyn â diogelwch y tai.

– Yn ôl datganiad y Cyngor, dydi “nifer” o’r tai ar Stryd Gyfyng ddim bellach wedi’u cysylltu â’r system garthffosiaeth, sy’n golygu fod gwastraff o’r tai yn gollwng i gamlas gyfagos;

– Oherwydd bod nifer o’r tai wedi colli’r rhan helaeth o’u gerddi wrth i’r tir lithro, does yna fawr ddim bwlch bellach rhwng y tai â dibyn islaw;

– “Os bydd adroddiadau daeareg technegol yn nodi nad oes modd diogeli’r tai, yna mae’n annhebyg y bydd y trigolion yn cael dychwelyd” ydi addewid diweddaraf y Cyngor.

Ond mae hi hefyd yn amlwg y gallai’r awdurdod gyhoeddi gorchmynion dymchwel ar gyfer yr adeiladau y mae’n ei ystyried yn “beryglus”.

Fe fydd cyfarfod cyhoeddus ddydd Iau nesaf, Medi 7, i drafod y sefyllfa.