Llys y Goron Caerdydd
Mae dyn oedd yn nyrs yn un o ysbytai de Cymru wedi’i garcharu am ddwy flynedd a naw mis ar ôl ymosod yn rhywiol ar bedair dynes yn yr ysbyty.

Cafodd Andrew Lauder, 54 oed, o Wenfô ym Mro Morgannwg ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd heddiw.

Clywodd y llys ei fod wedi ymosod yn rhywiol ar y merched rhwng Chwefror 2014 a mis Ionawr 2017.

Fe fydd yn cael ei ychwanegu at y gofrestr troseddwyr rhyw.