Mae dyn, 79, wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar ar gyrion tref Caerfyrddin.
Fe aeth Rover 400 lliw coch tywyll ben-ben ag Audi A1 coch ar ffordd y B4312 rhwng Tre Ioan a Llansteffan, am 10.15yh ddydd Mawrth (Awst 29).
Cafodd dwy ddynes oedd yn teithio yn yr Audi,eu cludo i’r ysbyty gydag esgyrn wedi torri a nifer o fân anafiadau.
Mae teulu’r dyn, ynghyd â’r crwner, wedi cael gwybod am y digwyddiad.