Mae’r heddlu yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i honiadau fod y Blaid Geidwadol wedi torri’r gyfraith wrth ddefnyddio canolfan alw yng Nghymru yn ystod ymgyrch etholiadol.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gadarnhau’r ymchwiliad i gontract y busnes Blue Telecoms yng Nghastell-nedd mewn llythyr at yr Aelod Seneddol Llafur dros Gaerffili, Wayne David.

Mae ffilmio cyfrinachol gan Channel 4 News yn awgrymu y gallai’r Torïaid fod wedi torri cyfreithiau diogelu data a chyfreithiau yn ymwneud ag etholiad.

Cafodd Blue Telecoms gontract i gysylltu ag etholwyr yn uniongyrchol mewn seddi ymylol.

Mae’r Ceidwadwyr wedi dweud nad yw wedi torri’r gyfraith drwy ddefnyddio’r cwmni, a gafodd ei hurio i wneud gwaith ymchwil a marchnata, meddan nhw.

Cadarnhaodd Heddlu De Cymru fod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal gan uned troseddau economaidd y llu ac yn y llythyr, maen nhw’n dweud nad oes amserlen i’r ymchwiliad oherwydd ei faint a’i bwysigrwydd.

‘Dim sylw’

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr nad yw’n gallu gwneud sylw am fod yr ymchwiliad yn parhau.