Twm Morys
Wedi dros ddeufis o aros, mae Twm Morys yn dweud ei fod wedi “ennill y frwydr” i gael arwydd dwyieithog ar dai ar werth yng Nghricieth.

Fe fu’r bardd a’r cerddor yn cyfarfod â datblygwr y tai, David Rowlinson, heddiw (dydd Gwener) ac mae wedi cael addewidy bydd yr arwydd yn cynnwys y Gymraeg ar y datblygiad tai sy’n werth hanner miliwn yr un, erbyn dydd Mawrth yr wythnos nesaf.

Ar ôl iddo godi’r mater yn ei golofn ym mhapur Y Cymro ym mis Mehefin, dywedodd y cwmni gwerthu tai, Beresford Adams, ym Mhorthmadog, wrth Twm Morys y byddai hyn yn cael ei wneud erbyn Awst 21.

Mae’n debyg fod David Rowlinson yn dadlau i ddechrau bod yr arwydd eisoes yn ddwyieithog oherwydd yr enw ‘Sibrwd y Môr’ ar y tai ar Lôn Tŷ’n Llan.

Mae’r datblygiad yn cynnwys pum tŷ – pedwar sy’n costio bron i hanner miliwn o bunnoedd, ac un sy’n “dŷ fforddiadwy”.

Brexit = mwy o dai haf?

Wrth siarad â golwg360, mae Twm Morys yn dweud ei fod yn pryderu y bydd mwy o Saeson yn prynu tai haf yng Nghymru o achos Brexit.

Dywed fod newid agwedd wedi bod ers y refferendwm a Saeson yn “cau i mewn arnyn nhw eu hunain”.

“Mae’r agwedd yn newid rŵan, wedyn ymhen ychydig mi fydd yn anoddach o lawer i bobol deithio i’r cyfandir, ac yn anoddach iddyn nhw newid dim yno – eiddo, tai ac yn y blaen,” meddai.

“Mi fydd yn haws o lawer iddyn nhw ddod i’r hen goloni, y coloni cyntaf wnaethon nhw erioed, sef Cymru fach.

“Ac mae Cricieth yn cael ei galw yn ‘the new Abersoch’, dw i wedi clywed hynny.”