Mae Maer Penfro wedi gadael ei rôl yn sgil cyhuddiadau ar ddechrau’r wythnos o droseddau rhyw hanesyddol

Cafodd y Cynghorydd Ceidwadol, Dai Boswell, 56, ei gyhuddo ddydd Mercher  o droseddau rhyw yn ymwneud â dau blentyn.

Cyhoeddodd ei fod yn gadael ei rôl yn ystod cyfarfod Cyngor Tref Penfro nos Iau. Yn ôl y Cyngor Tref mae’n gadael “o ganlyniad i’r amgylchiadau presennol”.

Cyhuddiadau

Yn ôl Heddlu Dyfed Powys, mae’r cynghorydd wedi ei gyhuddo o chwe achos o ymosod anweddus ac un o dreisio yn erbyn plant oedd o dan 13 oed ar y pryd.

Yr honiad yw bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1991 ac 1994.

Cafodd ei ethol yn Faer Penfro ym mis Mai ar ôl gyrfa yn y lluoedd arfog a’r Llengfilwyr.

Bydd e’n ymddangos gerbron ynadon fis nesaf.