Roedd Cymdeithas yr Iaith wedi dweud wrth y BBC y byddai’r Cadeirydd Heledd Gwyndaf yn fodlon cymryd rhan mewn eitem ddadleuol ar y rhaglen Newsnight yn trafod gwerth y Gymraeg.

Ac fe ddywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth golwg360 eu bod nhw wedi rhoi caniatâd i’r rhaglen ddefnyddio’r unig gyfweliad yr oedd y Comisiynydd wedi’i wneud am y Papur Gwyn a ysgogodd yr eitem.

Roedd y ddau gorff yn ymateb i sylwadau golygydd y Newsnight, Ian Katz sydd wedi dweud nad oedd unrhyw un ar gael o’r naill sefydliad na’r llall i ymddangos yn y rhaglen.

Yn y diwedd roedden nhw wedi defnyddio beirniad amlwg i’r Gymraeg a pherson di-Gymraeg oedd yn gefnogol ond heb fawr wybodaeth am yr iaith.

Comisiynydd Heddlu

Roedd Ian Katz yn ymateb i lythyr Comisiynydd Heddlu’r Gogledd, Arfon Jones ar ôl iddo fynegi pryder am agwedd y rhaglen at y Gymraeg.

Cafodd y rhaglen ei beirniadu ar ôl i’r awdur a cholofnydd Julian Ruck a golygydd gwefan gymunedol, Ruth Dawson ymddangos yn y drafodaeth – a’r naill na’r llall yn siarad Cymraeg.

“Mi gytunais i gymryd rhan,” meddai Heledd Gwyndaf mewn neges ar Twitter I Arfon Jones, gan ychwanegu, “clywais ddim byd wrthynt wedyn”.

Llythyr Ian Katz

Wrth ymateb i lythyr Arfon Jones, dywedodd Ian Kaz ei fod yn “or-ddweud ein bod ni wedi llwyddo i wylltio cenedl gyfan” ond fod gan y Comisiynydd “ddigon o gwmni”.

Roedd y llythyr yn cydnabod ei bod yn “deg” dweud y dylai’r rhaglen fod wedi cynnwys siaradwr Cymraeg.

Yn ôl Ian Katz, cafodd Comisiynydd y Gymraeg a Chymdeithas yr Iaith wahoddiad “ond doedden nhw ddim yn gallu neu ddim yn fodlon cymryd rhan”.

Ymateb i bryderon

Mae Ian Katz hefyd wedi cyfaddef nad oedd y panel yn “ddigon da” gan ddweud bod hynny wedi cael ei gyfaddef ar yr awyr.

Mae’n cyfaddef hefyd “fod geiriau’r cwestiwn [a yw’r Gymraeg yn help neu hindrans] yn fwy di-chwaeth nag y dylai fod”, ond mai bwriad y rhaglen oedd “herio ac ymchwilio i’r polisi cyhoeddus sy’n cefnogi’r iaith – nid dilysrwydd na gwerth yr iaith ei hun”.

Ond dywedodd Ian Katz fod codi’r cwestiwn o “a yw hybu’r iaith yn gyhoeddus er lles i Gymru yn bwnc trafod digon dilys”. Dydy gwrthwynebu hynny, meddai, “ddim yn iach i unrhyw un”.

Dywedodd fod un o uwch-olygyddion y rhaglen wedi “derbyn gwahoddiad caredig” i ddod i Gymru “i ddod o hyd i ffeithiau”.

Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC ymateb i honiadau Cymdeithas yr Iaith a swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.