Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am dystion wedi lladrad mewn siop fetio yn Noc Penfro brynhawn ddoe (dydd Llun, Awst 21).

Yr honiad yw bod dyn wedi dwyn arian ac wedi ymosod ar aelod o staff siop Betfred ar Stryd Dimond tua 5yh, gan achosi mân anafiadau.

Dyn gwyn sy’n cael ei amau, yn ôl yr heddlu, ac mae’n debyg ei fod yn gwisgo het a siaced du yn ystod y digwyddiad. 

Mae dyn 36 blwydd oed wedi ei arestio dan amheuaeth o ladrata ac mae’n parhau yn y ddalfa. 

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu oedd yn dyst i’r digwyddiad, gysylltu â’r heddlu ar y rhif 101.