Mae un o ddarlithwyr Prifysgol Bangor sydd yn gyfrifol am becyn newydd i hybu’r Gymraeg yn gobeithio y bydd yn “ysbrydoli pobol” i ddefnyddio’r iaith.

Mae’r pecyn wedi’i greu gan Dr Rhian Hodges a Dr Cynog Prys o Brifysgol Bangor ar y cyd â Menter Iaith Cymru, ac yn cynnwys enghreifftiau o weithgareddau sy’n hybu’r Gymraeg yn y gymuned – fe gafodd y rheiny eu casglu o wyth cymuned ledled Cymru.

Yn ôl Cynog Prys, er bod y pecyn yn anelu yn rhannol i hybu’r gweithgareddau cymunedol sydd eisoes yn bodoli, mae hefyd yn gobeithio bydd y pecyn yn annog pobol i ddechrau trefnu gweithgareddau eu hunain.

“Rhoi ysbrydoliaeth i bobol ydy nod ein pecyn,” meddai wrth golwg360. “Dangos i bobol y math o bethau sydd yn digwydd mewn cymunedau. Y math o weithgareddau – efallai rhai o’r pethau mwy anarferol – sy’n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru.”

“Felly’r nod ydi dangos i bobol mewn cymunedau eraill, y fath o bethau y byddan nhw’n medru gwneud yn eu cymunedau nhw os ydyn nhw’n chwilio i gychwyn gweithgaredd neu fusnes newydd. Neu os ydyn nhw’n chwilio i drefnu gweithgaredd sy’n hybu’r Gymraeg, neu gynnig cyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol.”

“Normaleiddio’r Gymraeg”

Mae Cynog Prys yn nodi bod ymchwil yn dangos bod diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cymunedau, ac yn credu bydd y pecyn yn helpu “normaleiddio’r” defnydd o Gymraeg.

“Mae o’n allweddol os ydyn ni’n mynd i gyrraedd y targed yma o filiwn o siaradwyr Cymraeg bod ni’n chwilio am ragor o gyfleoedd i bobol ddefnyddio’r Gymraeg tu allan i’r sustem addysg,” meddai.

“A’n bod ni yn edrych am ffyrdd creadigol i gynyddu’r ffyrdd i bobol neud defnydd o’r Gymraeg mewn ffurf fwy anffurfiol – mewn bywyd o ddydd i ddydd. Felly dw i’n meddwl bod y pecyn yma’n bwysig i drio normaleiddio ac ysbrydoli pobol i allu defnyddio’r Gymraeg.” 

Mae’r prosiect wedi’i selio ar ymchwil cafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ac wedi ei ariannu gan Gyllid Cronfa Cyflymu Effaith y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol.

Dolen i’r pecyn: http://www.mentrauiaith.cymru/cms/wp-content/uploads/2017/08/Pecyn-Cymorth-Hybur-Gymraeg-yn-y-Gymuned-PDF.pdf