Chafodd dros filiwn o bleidleisiau Cymru ddim effaith o gwbwl ar ganlyniadau’r etholiad cyffredinol yr ochr yma i Glawdd Offa, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol (ERS) cafodd 1,036,610 – neu tua 67% o’r pleidleisiau – eu “gwastraffu” yn ystod etholiad mis Mehefin eleni, wrth i tua chwarter yr etholwyr bleidleisio yn dactegol.

Mae’r nifer hwn yn uwch na’r ffigwr Prydeinig, o tua un o bob pump o etholwyr tactegol.

Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y ffaith fod y Blaid Lafur wedi ennill 70% o’r seddi yng Nghymru gyda dim ond 48.9% o’r bleidlais. 

“Wedi torri”

“Mae’r adroddiad yma yn datgelu darlun o system bleidleisio sydd wedi torri ar lefel sylfaenol,” meddai Cyfarwyddwr ERS Cymru, Jess Blair.

“Mae’r etholiad wedi dangos am y trydydd gwaith yn olynol, bod y system ‘cyntaf i’r felin’ ddim yn gweithio – gyda thros filiwn o bleidleisiau wedi’u gwastraffu yng Nghymru.

“Mae ystod eang o systemau lle nad yw pleidleisiau yn cael eu taflu i ffwrdd fel hyn,” meddai wedyn. “Mae’n rhaid i ni symud at fodd o bleidleisio Aelodau Seneddol, lle mae lleisiau pobol yn cael eu clywed yn iawn.”