Eleni yw 15fed blwyddyn Gŵyl y Dyn Gwyrdd ym Mannau Brycheiniog, ac erbyn hyn mae wedi tyfu i fod yn ŵyl sydd yn denu tua 20,000 o bobol.

Er hynny nid yw’r ŵyl wedi colli ei chymeriad yn ôl prif leisydd  y grŵp indi ARGRPH – band wnaeth chwarae yno am y tro cyntaf ar lwyfan y Settlement Stage ddydd Llun.

“Arwyddair yr ŵyl yw  ‘yr ŵyl fwyaf cyfeillgar ar y ddaear’, a dw i’n meddwl bod hynna’n wir,” meddai Emyr Siôn Taylor o ARGRPH wrth golwg360.

“Mae popeth mor neis a chyffyrddus, ac mae pawb mor hapus. Dw i erioed wedi bod i rywle lle mae pawb mor hapus.”

Cyffyrddus

Mae agwedd a naws gyfeillgar yr ŵyl hefyd i’w teimlo trwy ymateb ymwelwyr yr ŵyl, yn ôl Emyr Siôn Taylor, ac mae’n nodi yr oedd hynna i’w deimlo yn ystod eu set.

“Oedd e’n brofiad da iawn. Oedd e’n eitha’ llawn ac oedd e’n glawio felly daeth llwythi o bobol i mewn o’r glaw i gysgodi a gwylio ni. Roedd pawb yn eistedd ac yn gwrando, ac yn brofiad neis iawn. Oedd na naws neis yna, ac aeth popeth lawr yn dda.

 “Dyna’r mwyaf cyffyrddus ry’n ni wedi bod yn chwarae i dorf fel hynna. Oedd ymateb y gynulleidfa yn cŵl achos doedden ni ddim yn gwybod beth i ddisgwyl achos dydyn ni erioed wedi chwarae i’r bobol yna o’r blaen. Ond mi wnaethon nhw aros, gwylio a gwrando.”

Mae Emyr Siôn Taylor yn ychwanegu mai set ddwyieithog oedd gan y band yn yr ŵyl ond roedd y dorf “wir yn mwynhau’r hanner Cymraeg.”